Rhif y Ddeiseb: P-06-1428

Teitl y ddeiseb: Stopiwch y llifogydd yn Cae Nant Terrace, Sgiwen NAWR!

Geiriad y ddeiseb:

Am y 40 mlynedd diwethaf, mae Cae Nant wedi dioddef llifogydd yn rheolaidd oherwydd nad yw’r cwlfert a’r system ddraenio yn gallu ymdopi â faint o ddŵr. Ac eto, mae’r teras yn cael ei droi’n afon gyda miloedd o alwyni o ddŵr yn arllwys i lawr y ffordd a’r lôn gefn. Mae un tŷ wedi dioddef llifogydd sylweddol yn yr achos diweddaraf hwn o dorri’r rheolau.

Mae’r cyngor wedi bod yn dweud wrth drigolion ers blynyddoedd y bydd yn cael ei drwsio, ond rydym bellach wedi cael digon ac yn deisebu i sicrhau bod:

1. Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cytuno ar ateb sy’n dileu’r risg y bydd y llifogydd rheolaidd hyn yn digwydd eto; a

2. Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl.

Dywedodd y swyddog draenio ddoe nad yw’r system yn addas i’r diben, ac rydym yn annog pob corff cyfrifol i gymryd camau nawr.

 

 


1.        Y cefndir

Mae’r papur briffio hwn gan Ymchwil y Senedd yn rhoi trosolwg o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae’n nodi’r cyd-destun o ran deddfwriaeth a pholisi, ac yn amlinellu’r trefniadau ariannu i fynd i’r afael â llifogydd.

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010yn deddfu ynghylch llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Mae adran 6 o’r Ddeddf yn diffinio rolau a chyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Risg. Yng Nghymru, y rhain yw Cyfoeth Naturiol Cymru, pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru (sy’n gweithredu fel awdurdodau llifogydd lleol arweiniol), awdurdodau priffyrdd a chwmnïau dŵr a charthffosiaeth. Mae cyrff eraill sydd â rôl anstatudol o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan gynnwys tirfeddianwyr preifat a pherchnogion asedau seilwaith.

Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddatblygu Strategaethau Lleol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd, a’u rhoi ar waith.  Mae’r strategaethau lleol yn gosod amcanion ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol o ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin, a rhaid iddynt gyd-fynd â Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru. Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol ar gyfer Cae Nant Terrace, a chyhoeddodd ei Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd yn 2013.

Yn gyffredinol, perchnogion eiddo sy’n gyfrifol am bibellau draenio preifat y tu mewn i’w cartref ac o fewn ffiniau eu heiddo. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ddraeniau wedi blocio ar eiddo y maent yn ei reoli, draeniau ar briffyrdd a chwteri. Rhoddir manylion y cyfrifoldebau hyn ar wefan Dŵr Cymru.

 

1.1.            Llifogydd ar Cae Nant Terrace

Yn Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013 Cyngor Castell-nedd Port Talbot, rhestrir Cae Nant Terrace fel lleoliad lle mae pryderon penodol am berygl llifogydd yn effeithio ar 33 eiddo. Cyfeirir at achos y llifogydd fel “Methiant yr hen system ddraenio storm i ddygymod â llifoedd o law dwys a pharhaus”.

Ym mis Hydref 2023, dywedodd adroddiad gan ITV am y llifddwr hwnnw ar Cae Nant Terrace, Sgiwen:

 …it’s coming from an underground waterpipe located between two houses on the street… a manhole cover in the lane which conceals the culvert is unable to cope with excess rainfall and is dislodged during heavy downpours. That allows water to escape from the pipe and flood the area.

O ran cyfrifoldeb am y llifogydd ym mis Hydref 2023 a chamau a gymerwyd gan gyngor Castell-nedd Port Talbot, dywedodd llefarydd mewn dyfyniad ar Wales Online:

Responsibility for piped watercourses within an associated piece of land transfers with sale of the property… This is the situation regarding these two properties in Caenant Terrace. There has been a problem with a pipe carrying a watercourse across their land and a blockage has occurred, which the owners have legal responsibility to address. The property owners in this case have had many opportunities to address the problem but have not done so.

…The council has served a legal notice served on the landowners to take action and in the absence of a response and in the interests of local residents, it arranged for a contractor to undertake works to repair the land drainage pipe.

This has been undertaken without prejudice, as, by law, the drainage at this location is owned by the residents of the said properties and is not a council asset nor a council responsibility. The works are now virtually completed.

Bu llifogydd yn Sgiwen o’r blaen, ym mis Ionawr 2021, wedi i ddŵr gronni o dan y ddaear a pheri i ddŵr o hen safle glofaol lifo i’r wyneb. Arweiniodd hynny at orfod gwagio 80 o gartrefi, yn bennaf ar Dynevor Road, y mae llinell reilffordd rhyngddi a Cae Nant Terrace.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn dyfarnu cyllid bob blwyddyn i Awdurdodau Rheoli Risg drwy’r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Gall Awdurdodau Rheoli Risg wneud cais am arian “i ddarparu rhaglen o waith cyfalaf i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i gymunedau ledled Cymru”. Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw’r Awdurdod Rheoli Risg ar gyfer Sgiwen, a dyfarnwyd £329,151.28 iddo ers 2021 ar gyfer gwaith ar Cae Nant Terrace, y manylir arno yn y tabl isod. Ar gyfer 2022-23, 2023-24 a 2024-25, cyfnod y gwaith a restrwyd ar gyfer y prosiectau hyn oedd ‘Achos Busnes Llawn / Dyluniad’.

Blwyddyn

Cyllid rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol a ddyrannwyd

2024-25

£104,126

2023-24

£163,750

2022-23

£34,127

2021-22

£27,148.28

Wrth ymateb i’r ddeiseb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, fod “Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid o 100% i'r RMA i gynnal Dylunio Manwl a drafftio Achos Busnes Llawn” a bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot “yn bwriadu cwblhau’r dyluniad a gwneud cais am gyllid adeiladu yn gynnar yn 2025”.

Yn dilyn llifogydd ar Cae Nant Terrace ym mis Hydref 2023, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth ITV:

We have provided Neath Port Talbot County Borough Council with £765,000 to develop a scheme for Caenant Terrace, and they are currently working on a scheme that will benefit the wider community of Skewen.

Once this is completed, the local authority will need to submit a bid for construction funding.

Yn ei ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd fod:

 …cwmpas y cynllun wedi tyfu wrth i'r RMA geisio mynd i'r afael â phob ffynhonnell o lifogydd. Cafodd ardal y cynllun lifogydd hefyd o geuffordd pwll hanesyddol ym mis Ionawr 2021, a oedd angen ystyriaeth bellach o fewn cwmpas y cynllun.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru 

Ni fu unrhyw weithgarwch gan y Senedd ynghylch y llifogydd yn Cae Nant Terrace, ond trafodwyd y llifddwr o’r hen safle glofaol yn Sgiwen yn dilyn cwestiwn amserol gan David Rees AS i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd, Julie James AS, ar 27 Ionawr 2021.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.